Pwysig/ Important

Fel y gwyddoch, mae achosion o’r dwymyn goch yn cynyddu, ac mae ychydig o achosion wedi dod i’n sylw yn yr ysgol. Er bod y niferoedd yn isel ar hyn o bryd, rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn bryderus i rieni/ gofalwyr, ond gallwn eich sicrhau ein bod yn dilyn canllawiau a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod lleol i ysgolion. Dyma lythyr i chi sydd wedi ei rannu gyda Ysgolion Cymru gan Iechyd Cyhoeddus. 
As you are aware, there is a rise in Scarlet Fever cases, and a few cases have been reported in the school. Although currently the number of cases are low, we appreciate that this may cause some concern,  but we would like to assure you we are following the guidance given to all schools by Public Health Wales and the Local Authority. Attached is a letter with some information from Public Health which has been shared with schools.