Digwyddiadau y Fenter/ Menter iaith events

Fedrwch chi bwcio ar y wefan/ You can book via the website 

https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw

Clwb Celf Y Waun

 Neuadd y Plwyf y Waun, Wrecsam, LL14 5NA

 Iau 30/10/25 – Iau 27/11/25

Dewch i gyfarfod ag artistiaid lleol ac i greu yn y Gymraeg! Cyfle i gymdeithasu a defnyddio’r Gymraeg sydd gyda chi, dysgu geirfa newydd a chrefftau amrywiol.

Come and meet local artists and get creative in Welsh! An opportunity to socialise and use the Welsh you have, learn new vocabulary, and enjoy a variety of crafts.

Sesiwn 1 – 30.10.25 – Emma-jayne Holmes – Braslunio / Sketching
Dewch i wneud llyfr braslunio a chwarae gemau llunio. Mi fyddwn yn defnyddio deunyddiau wedi’u ailgylchu ac offer tynnu llun syml.


Come and make a sketchbook and then play drawing games in your sketchbook. We will be using recycled materials and simple drawing tools.

Sesiwn 2 – 13.11.25 – Moxy Child – Argraffu gyda Tetra Pak /  Printing with Tetra Pak
Dewch i ddysgu sgiliau argraffu newydd yn y Gymraeg. Mi fyddwn ni’n defnyddio pecynnau bwyd Tetra Pak i argraffu.

Come and learn new printing skills in Welch. We will be using Tetra Pak to print designs.

Sesiwn 3 – 27.11.25 – Eirian Muse – Gwehyddu Helyg / Willow Weaving
Sesiwn gyda Eirian Muse i ddysgu sut i greu addurniadau syml yn defnyddio helyg.

A session with Eirian Muse learning how to create a simple decoration using willow.

Taith y Tolaeth

 Saith Seren, Wrecsam, LL13 8BG

 Gwener 31/10/25

Taith o gwmpas dinas Wrecsam i ymweld â rhai o lefydd fwyaf arswydus y dref, clywed hanes rhai o’r cymeriadau ffiaidd o’n gwmpas ac efallai cwrdd ag ysbryd neu ddwy ar hyd y ffordd! 🎃👻

Yn dechrau ac yn gorffen tu allan i’r Saith Seren mae’r daith hon yn addo profiad unigryw i helpu ddathlu Calan Gaeaf Cymraeg. 🌃🧙🏻

Mewn gydweithrediad a North Wales Ghost Tours, mae’r digwyddiad hon yn cael ei chynnal yn y Gymraeg ac yn addas i ddysgwyr lefelau canolradd +. 


A ghost walk around the city of Wrexham to see some of it’s spookiest places, hear the stories of it’s beastly residents and perhaps meet a ghost or two along the way!  

Beginning and ending outside of the Saith Seren, this promises to be a unique experience to help celebrate a Welsh Halloween. 

In conjunction with North Wales Ghost Tours, this event will be conducted in Welsh but is suitable for learners Canolradd + 

Amgueddfaaa! – Diancfa Cymraeg

 Chapter Court, Wrecsam, LL11 1AP

 Sadwrn 15/11/25

Ydych chi’n ddigon cyfrwys a chraff i ddatrys holl bosau a’r cliwiau er mwyn dianc o’r Amguedfaaa!?

Dyma gyfle i brofi eich sgiliau a chael llond Diancfa (Ystafell Ddianc) o hwyl gyda ffrindiau, criw gwaith neu fel teulu.

4 aelod ym mhob tîm a rhaid talu am bob aelod (£5 yr un). Os ydych eisiau dod â thîm mwy cysylltwch â ni ar gwybod@menterfflintwrecsam.cymru

Addas i blant 14+ neu 10+ mewn tîm gydag oedolion eraill.



Are you sharp and cunning enough to escape from our pop-up escape room, Amgueddfaaa!?

Join us to solve puzzles, search for hidden clues and find a way to breakout from our Wrexham museum!

Only 4 members in a team and every member must be paid for (£5 each). If you wish to bring a larger team please contact us directly at 
gwybod@menterfflintwrecsam.cymru*Please note, this event will be run through the medium of Welsh.

Suitable for children age 14+ or 10+ with adult members in the team

Groto Siôn Corn – Chapter Court, Wrecsam

 Chapter Court, Wrecsam, LL11 1AP

 Mercher 03/12/25

English below

Groto Siôn Corn. 

Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn Chapter Court, Wrecsam. Bydd cyfle i glywed stori wreiddiol gan ‘y dyn ei hun’ cyn ymuno yn hwyl yr ŵyl gan greu celf a chrefft Nadolig, ysgrifennu llythyr at Siôn Corn a chael ymweld fel teulu â’r Groto i sgwrsio a dymuno Nadolig Llawen i’r dyn a’i farf llaes a’i wallt gwyn. 

Byddwn yn agor y drysau i bawb am 3pm, 4:30pm neu 6pm gan ddechrau’r sesiwn gyda stori, cyn i bawb ymuno yn y sesiwn creu crefftau Nadoligaidd Dwylo.  Yn ystod y sesiwn grefft bydd y teuluoedd yn derbyn slot amser penodol i ymweld â Siôn Corn ac yn eu tro yn cael eu galw draw i’r groto i drafod hynt a helyntion y flwyddyn a’r hyn y maent eisiau y Nadolig hwn.

£4 am y plentyn cyntaf ac yna £2 am bob plentyn ychwanegol! Am ddim i rieni a gwarchodwyr.

Llefydd yn brin. Archebwch yn fuan.

Nodwch fod hwn yn ddigwyddiad iaith Gymraeg i blant.

Groto Siôn Corn (Santa’s Grotto)

Come and meet Father Christmas at Chapter Court, Wrecsam. There will be a chance for the children to listen to an original story by the ‘man himself’, create Christmas crafts, write a letter to Santa, and have a chat with him in the grotto! 

Everyone will arrive at the start of the session (3pm, 4:30pm, or 6pm) for story time, then arts and crafts, during which time families will be called over to the grotto in turn for a chat with Father Christmas to discuss what the children have been up to all year and what they would like for Christmas. 

£4 for the first child then only £2 for each additional child! Free for parents/guardians.

Limited spaces. Book soon.

This is a Welsh language event for children.