Cymorth ariannol/ Financial support

Mae cymorth ariannol ar gael i fwy o ddysgwyr yn Wrecsam


O fis Medi, bydd mwy o ddysgwyr yn Wrecsam yn derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol. P’un ai fod hynny’n gymorth gyda gwisg ysgol a chostau offer drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, prydau ysgol am ddim ar gyfer holl ddisgyblion derbyn Wrecsam neu brydau ysgol am ddim i’r holl oedrannau hynny sy’n gymwys. 

Felly, gyda’r tymor newydd ar ein gwarthaf rydym yn annog  rhieni i wneud cais am y cymorth sydd ganddynt hawl iddo.

Ydi eich plant chi’n derbyn prydau ysgol am ddim?

Os ydi eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim efallai bod gennych hawl hefyd i gymorth ychwanegol trwy’r Grant Datblygu Disgyblion, sydd yn cynnwys cymorth ariannol ar gyfer iwnifform, offer chwaraeon a dyfeisiadau. I gael mynediad i gynllun eleni ewch i Grant Datblygu Disgyblion  (PDG) | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid yn y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni efallai y bydd gan Wrecsam gefnogaeth ar eich cyfer.  I wirio os ydych yn gymwys ai peidio am Brydau Ysgol am Ddim, ewch i Prydau Ysgol am Ddim | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os ydych yn gymwys efallai y byddwch hefyd yn gymwys am Grant Datblygu Disgyblion

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim rwy’n eich annog i ymweld â’n gwefan ac i wneud cais. Os yw eich cais yn llwyddiannus efallai y byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i Grant Datblygu Disgyblion sy’n gam pwysig i atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod nhw’n gymwys i gysylltu â ni er mwyn cefnogi rhieni a dysgwyr trwy gydol y flwyddyn ysgol.”

Prydau ysgol am ddim i holl blant oedran derbyn

Bydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael eu cyflwyno i holl ddysgwyr cynradd yng Nghymru dros y 12-18 mis nesaf.

I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosib, bydd yr holl blant yn Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o fis Medi yma ymlaen. 

Os ydi eich plentyn yn dechrau Derbyn y flwyddyn ysgol hon, mi fyddan nhw’n derbyn prydau am ddim yn awtomatig. OND rydym yn eich annog i lenwi’r Ffurflen Prydau Ysgol am Ddim ar ein gwefan rhag ofn eich bod yn gallu cael mynediad i fwy o gymorth i’ch plentyn. 

Eich plentyn yn dechrau ysgol? Byddwch angen cyfrif Parent Pay

Os ydi eich plentyn yn derbyn pryd ysgol am ddim eleni – p’un ai’n bryd ysgol am ddim cyffredinol neu yn un yr ydych wedi gwneud cais amdano – byddwch angen cyfrif ar wefan Parent Pay –www.parentpay.com. Dyma sut i gael cyfrif:

1.       E-bost  gydag enw llawn eich plentyn, dyddiad geni ac enw eu hysgol, a gofynnwch am eich cod cynnau Parent Pay

2.       Byddwch yn derbyn cod cynnau i ddechrau a rhedeg y cyfrif.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol sydd ar gael i’ch plentyn pan fyddan nhw yn yr ysgol cysylltwch â ni ar .

 

 

 

Addysg ac Ymyrraeth Gynnar



Financial help available for more learners in Wrexham

From September, more learners in Wrexham will receive additional financial support. Whether it’s help with school uniform and equipment costs through the Pupil Development Grant, free school meals for all of Wrexham’s Reception class pupils, or free school meals for all ages to those eligible.

So, as the new term approaches, we are urging parents to apply for the support they’re entitled to.

Does your child already receive free school meals?

If your child currently receives Free School Meals, you may also be entitled to additional help through the Pupil Development Grant, which includes financial support for uniform, sports equipment and devices. To access this year’s scheme visit Pupil Development Grant (PDG) | Wrexham County Borough Council.

Has your financial situation changed in the last year?

If your child is not currently receiving Free School Meals, but your circumstances have changed this year, Wrexham might have support available for you. To check if you are eligible for Free School Meals, visit Free school meals | Wrexham County Borough Council. If you are eligible, you may also be able to receive the Pupil Development Grant.

Cllr Phil Wynn, Lead Member for Education, said: “If you feel you may be eligible for Free School Meals, I urge you to visit our website and apply. If your application is successful, may also be able to access the Pupil Development Grant, which is an important step in stopping money getting in the way of children’s education. We urge anyone who feels they are eligible to get in touch with us to support parents and learners through the school year.”

Free school meals for all reception-aged children

Universal Free School Meals will be rolled out to all primary learners in Wales over the next 12-18 months.

To help the youngest learners as soon as possible, all children in Reception will receive Free School Meals from this September.

If your child starts Reception this school year, they will receive their free meal automatically. BUT we urge you to complete the Free School Meals form on our website in case you are able to access further help for your child.

Child starting school? You’ll need a Parent Pay account

If your child will be receiving a free school meal this year – whether it is a universal free school meal or one you have applied for – you will need an account on the Parent Pay website www.parentpay.com.  Here’s how you get one:

1.       Email  with your child’s full name, date of birth and name of their school, and ask for a Parent Pay activation code

2.       You will receive an activation code to get the account up and running

If you have any questions about financial help available for your child while they are at school you can contact us at .

Education and Early Intervention Department