Annwyl rieni,
Mae achos o COVID-19 wedi’i gadarnhau yn y Clwb bach ar ôl ysgol. Dylai eich plentyn barhau i fynychu’r ysgol.Gan fod eich plentyn yn gyswllt agos mae angen iddynt ddefnyddio Profion Llif Ochrol (LFTs) bob dydd am 7 diwrnod. Mae pecynnau ar gael yn yr ysgol pe byddech angen. Gofynnwn ichi fod ar eich gwyliadwriaeth am symptomau COVID-19 yn eich plentyn.
Dyma dri phrif symptom COVID-19:
Os oes unrhyw un o’r tri phrif symptom hyn ar eich plentyn, peidiwch â’i anfon i’r ysgol a threfnwch brawf PCR ar ei gyfer ar unwaith. Gallwch archebu prawf PCR ar-lein drwy wefan y GIG yn gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119. Dylai unrhyw un arall yn eich cartref sydd ag unrhyw un o’r tri phrif symptom hyn hefyd ynysu a chymryd prawf PCR.
Noder os gwelwch yn dda, os yw’ch plentyn o dan 5 oed, ni ddylent gymryd prawf COVID-19 oni bai bod meddyg yn cyfarwyddo iddynt wneud hynny neu os ydych chi’n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er budd gorau eich plentyn. Fodd bynnag, dylent aros i ffwrdd o’r ysgol tra bod ganddyn nhw symptomau.
Os yw unrhyw aelod o’ch cartref wedi profi’n bositif am COVID-19, rydym hefyd yn argymell y dylai plant 5 oed a hŷn ddefnyddio prawf LFT yn ddyddiol am saith diwrnod. Dylai hyn ddechrau ar y diwrnod y cadarnheir bod aelod o’ch cartref yn bositif o ganlyniad prawf llif ochrol neu brawf PCR.
Dylai unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf positif ddilyn y rheolau yn https://www.llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu. Os yw’r canlyniad yn negyddol, gall eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol cyn gynted ag y bydd yn teimlo’n well.
Fel ysgol, nid ydym bob amser yn ymwybodol o amgylchiadau personol, a gallai fod yna oedolion neu blant yn eich cartref neu eich grŵp cyswllt estynedig sydd â chyflyrau sy’n cynyddu risg COVID-19. Efallai y byddwch am gyfyngu ar eich cysylltiad ag unrhyw un sydd mewn perygl mwy o effeithiau COVID-19 rhag ofn.
Er gwybodaeth y mae’r llythyr hwn, er mwyn ichi fod ar eich gwyliadwriaeth am symptomau COVID-19. Mae’n bosibl y cewch ohebiaeth bellach gan y tîm Profi, Olrhain, Diogelu gyda rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd.
Rydym yn gwybod cymaint y mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi tarfu ar fywydau pawb. Eleni, rydym am gadw eich plentyn yn yr ysgol gymaint â phosibl, ond rydym hefyd am gadw ein hysgolion a’n cymunedau yn saff rhag effeithiau COVID-19.
Yn gywir,
Miss Nerys Davies