**Bwydlen newydd / New school Lunch Menu**

Hoffem eich hysbysu y bydd bwydlen yr ysgol yn newid o wythnos nesaf. Mae’r fwydlen newydd wedi’i hatodi ac ar gael i’w gweld yn y Dderbynfa.
Fel rhan o Ganllawiau newydd y Llywodraeth i hyrwyddo bwyta’n iach a lleihau bwydydd wedi’u prosesu, bydd y newidiadau canlynol hefyd yn dod i rym:
  • Ni fyddwn bellach yn gallu cynnig brechdanau ham
  • Bydd yr holl fara, bapiau a reis yn gymysgedd 50:50
  • Bydd pasta’n wenith cyflawn yn unig
  • Bydd ffrwythau yn cael eu gweini gyda phob pwdin
  • Ni fydd angen i rieni ddewis prydau ochr na llysiau mwyach. Yn lle hynny, bydd pob pryd yn cael ei weini fel pryd cyflawn. Rhaid i unrhyw geisiadau i newid hyn gael eu cefnogi gan nodyn meddyg neu gyngor alergedd gan ddietegydd
Hoffem hefyd eich atgoffa i archebu prydau eich plentyn ymlaen llaw. Gellir gwneud hyn drwy ParentPay hyd at 3 wythnos ymlaen llaw.
Diolch i chi am eich cydweithrediad.

We would like to inform you that the school menu will be changing from next week. The new menu is attached and available to view at the school Reception.
As part of new the Government Guidelines to promote healthy eating and cut back of processed foods, the following changes will also come into effect: 
  • We are no longer able to offer Ham sandwiches
  • All bread, baps & rice will be 50:50
  • Pasta will be wholewheat only
  • Fruit will be served with all desserts
  • Parents will no longer need to choose their side dishes and vegetables. Instead, each meal will be served as a complete dish. Any requests to differ from this must be supported by a doctor’s note / allergen advice from a dietitian.
We would also like to remind you to book your child’s meals in advance. This can be done via ParentPay, up to 3 weeks in advance.
Thank you for your cooperation.
Cofion
MrJones


Rheolwr Gweinyddu a Threfniadaeth 
Admin & Organisation Manager
Ysgol Bodhyfryd