Bore da,
Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion bod pennaeth newydd wedi’i benodi yn Ysgol Bodhyfryd.
Ar ôl proses benodi ofalus a thrylwyr, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Mrs Rhiannon Williams yn ymgymryd â rôl y pennaeth. Mae Rhiannon eisoes yn aelod allweddol o’n cymuned ysgol, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at safonau, lles a bywyd ehangach yr ysgol.
Rydym yn hyderus y bydd Rhiannon yn parhau i adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn bodoli, ac yn arwain yr ysgol yn llwyddiannus i’r dyfodol er budd ein disgyblion a’n cymuned.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus i’r ysgol.

