Ceisiadau Ysgol Uwchradd / High School applications

Annwyl Rhieni disgyblion blwyddyn 6

Hoffem eich hysbysu bod y cyfnod i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer mis Medi 2026 bellach wedi cychwyn. 

Bydd ein hysgolion uwchradd ni’n cynnal eu nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf. Os ydych chi’n ystyried dewisiadau, gallan nhw fod yn gyfle gwych i rieni/gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion i gael syniad o ba fath o le ydyn nhw.  Mae dyddiadau nosweithiau agored yr holl ysgolion ar gael ar ein gwefan – Nosweithiau agored.

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau – 3ydd Tachwedd 2025.

Fe’ch argymhellir yn gryf i restru mwy nag un dewis wrth wneud eich cais.  Ni fydd rhoi enw un ysgol, neu restru enw ysgol fwy nag unwaith, yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yn yr ysgol honno.  Fodd bynnag, os ydych ond yn rhoi enw un ysgol ac nad yw eich cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus, bydd unrhyw ddewisiadau newydd a ychwanegwch ar ôl y dyddiad cau yn cael eu trin fel ceisiadau ‘hwyr’.  Mae hyn yn golygu y gallai fod gennych lai o gyfle i gael eich ysgol ddewisol, oherwydd rhoddir blaenoriaeth i geisiadau amserol. 

Mae’n bwysig ystyried sut y bydd eich plentyn yn mynd i’r ysgol bob dydd wrth benderfynu pa ysgolion i’w hychwanegu at eich cais.  Gweler ein polisi trafnidiaeth am ragor o wybodaeth am eich cymhwysedd ar gyfer trafnidiaeth ysgol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais a ‘chwestiynau cyffredin’ ar ein gwefan –  Derbyniadau Ysgol CBSW