Tywydd poeth/ Hot weather

Fel y gwyddoch, mae rhagolygon am dywydd eithafol o boeth dechrau wythnos nesaf. Allwch chi sicrhau bod gan y disgyblion ddilad llac, golau a het addas (nid oes angen iddynt wisgo gwisg ysgol Dydd Llun a Dydd Mawrth nesaf. ) Allwch chi hefyd sicrhau eich bod yn rhoi eli haul ar eich plentyn yn y bore cyn iddynt ddod i’r ysgol. Byddwn yn sicrhau bod y disgyblion yn cael digon o gyfle i gael diodydd yn ystod y dydd. Byddwn yn osgoi cyfnodau hir tu allan os yw’r tywydd mor eithafol a’r rhagolygon. Os ydym tu allan, byddwn yn annog i disgyblion i gysgodi. Ni fyddwn yn cynnal gwersi addysg gorfforol tu allan os yw hi’n eithafol o boeth. Byddwn yn agor y ffenestri mor gynnar yn y bore ac a fedrwn ni.

As you are aware, there are weather warning for extreme heat on Monday and Tuesday. Could you please ensure that the pupils wear suitable loose fitting, light coloured  clothing to help keep cool and sunhats with wide brims (there is no requirement to wear school uniform next week). Could you also ensure that the pupils have applied plenty of sunscreen before they arrive in school. We will ensure that the pupils have access to water throughout the day, and will avoid long periods outside should the temperatures be as extreme as they have predicted. We will encourage the children playing outdoors to stay in shade as much as possible. The pupils will not take part in vigorous physical activity if the weather is very hot. We will open all windows as early as we can in the morning.