Gweler y neges isod gan y Sir/ Please see message below from the Local Authority
Annwyl Rieni
Fel rydych chi’n gwybod, bydd ein hysgolion yn cau dros gyfnod y Nadolig ar 18 Rhagfyr 2020. Yn ystod y Pandemig, gofynnwyd i chi gysylltu â’r ysgolion yn uniongyrchol pe bai eich plentyn yn cael prawf positif am COVID 19.
Yn ystod y gwyliau, rydym yn deall na fydd hyn yn bosibl, fodd bynnag mae angen i ni wybod am unrhyw achosion positif o hyd. A fyddech cystal â chysylltu’n uniongyrchol â thîm Gwarchod y Cyhoedd Wrecsam pe bai eich plentyn yn cael prawf positif ar ôl 18 Rhagfyr 2020 a chyn 4 Ionawr 2021? Bydd angen iddynt wybod enw’r disgybl, dyddiad geni, yr ysgol a fynychir a’r grŵp blwyddyn.
Y cyfeiriad e-bost yw Food&FarmingCovid-19@wrexham.gov.uk a’r rhif ffôn yw 01978 207120
Dear Parents
As you know our schools will be closing for the Christmas period on the 18th December 2020. During the Pandemic you have been asked to contact the schools directly should your child test positive for COVID 19.
During the holiday period we understand that this will not be possible, however we do still need to know about any positive cases. Could we please ask that should your child test positive after 18th December 2020 and before 4th January 2021 that you contact the Wrexham Public Protection Team directly. They will need to know the pupils name, date of birth, school attended and year group.
The email address Food&FarmingCovid-19@wrexham.gov.uk and telephone number is 01978 207120