Gweler yr atodiad/ See attachment
Yn y cyfamser, bydd y trefniadau cyfredol ar gyfer y ddarpariaeth i weithwyr allweddol yn parhau. Os ydych angen defnyddio’r ddarpariaeth ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor, yna gallwch chi ebostio’r ysgol cyn diwedd yr wythnos yma os gwelwch yn dda. I’ch atgoffa, mae’r 22ain yn ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd, felly bydd yr ysgol yn ail agor o’r 23ain o Chwefror. Fel y dywed yn y llythyr, byddwn yn cysylltu wedi hanner tymor i gadarnhau’r trefniadau o ran dychwelyd i’r ysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.
In the meantime, current arrangements will continue regarding the provision for critical workers. If you need to use the provision after half term, could you please contact the school before the end of this week. To remind you, the 22nd is a staff training day, therefore the school will reopen on Tuesday the 23rd of February. As it states in the letter from the county, we will confirm the arrangements after half term regarding the starting date for the foundation phase.