Annwyl Rhieni/Gofalwyr,
Mae’r Corff Llywodraethu yn falch o gyhoeddi bod Miss Nerys Davies wedi’i phenodi’n Bennaeth newydd i Ysgol Bodhyfryd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am ei gwaith rhagorol fel Pennaeth Dros Dro am bedair blynedd, trwy gyfnod ansicr a heriol iawn. Rydym fel Corff yn edrych ymlaen i weithio gyda Miss Davies a’r holl staff yn y dyfodol.
Cofion cynnes,
Liz Edwards (ar ran y Corff Llywodraethu)