Diweddariad/ Update

Trefniadau dychwelyd i’r ysgol/ Return to school arrangements

Mae wedi bod yn hyfryd croesawu’r disgyblion yn ôl i’r ysgol. Allwn ni eich atgoffa o bwysigrwydd sicrhau eich bod yn parhau i ymbellhau yn gymdeithasol. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau a bod rhieni a gofalwyr ar y safle yn gwisgo mwgwd. 

Ni fyddwn yn newid trefniadau llawer o fewn yr ysgol ar hyn o bryd, ond y byddwn yn newid ychydig ar drefniadau amser chwarae/ cinio. O Ddydd Llun, yn hytrach na bod y disgyblion yn chwarae o fewn eu swigen dosbarth, bydd y disgyblion yn cael chwarae gyda dosbarthiadau eraill o fewn eu uned. Bydd Blwyddyn 5 a 6 yn chwarae ar wahan i ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4. Byddwn yn adolygu hyn yn gyson ac yn ymateb yn briodol os yw’r sefyllfa gyda covid yn newid. Yr unig newid o fewn yr ysgol ar hyn o bryd yw y bydd disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael eu cinio yn y Neuadd yn hytrach na’r dosbarth, ond byddant yn parhau yn eu swigen dosbarth wrth fwyta cinio yn y neuadd. Yn amlwg, yr ydym yn adolygu ein asesiad risg yn rheolaidd, ac os oes newid pellach, byddwn wrth gwrs yn eich hysbysu o unrhyw newid.

It has been lovely to welcome the pupils back to school. May we remind you of the importance of maintaining social distancing and that parents and guardians continue to wear a mask. It is vital that we all ensure that we follow the guidelines

We will not change many arrangements within the school at the moment, but we will make some changes to the playtime / lunchtime arrangements. Instead of pupils playing within their classroom bubble, pupils will be allowed to play with other classes within their unit from Monday. Years 5 and 6 will play separately from Year 3 and 4 pupils. We will keep this under review and respond accordingly if the situation with covid changes. The only change within the school at present is that Foundation Phase pupils will have their lunch in the Hall rather than the classroom, but will remain in their classroom bubble while they eat in the hall. We regularly review our risk assessment, and if there is any further action, we will of course inform you of any change.