Cyrsiau/ Courses

Annwyl Riant/Ofalwr, 

CYRSIAU I RIENI/GOFALWYR YN YSGOL MORGAN LLWYD 

Yn fuan yn 2023, mewn partneriaeth â Dysgu Cymunedol i Oedolion, bydd Hwb Dysgu/Addysgu Ysgol Morgan Llwyd yn cynnig cyrsiau i rieni/gofalwyr yr ysgol ac i rieni gofalwyr yr ysgolion cynradd sy’n bwydo’r ysgol. Bydd y cyrsiau hyn YN RHAD AC AM DDIM ac yn cael eu cynnal yn Ysgol Morgan Llwyd.  


RYDYN NI ANGEN EICH HELP! Pa fath o gyrsiau hoffech chi i ni drefnu? Byddem yn ddiolchgar pe baech yn llenwi’r holiadur isod gyda’ch syniadau! 

https://forms.office.com/r/xmD14r1et3

PWYSIG! Mae atebion yr holiadur hwn yn mynd i’n helpu i ddeall pa fath o gyrsiau fydd yn boblogaidd/amhoblogaidd ymhlith ein rhieni/gofalwyr. Dydych chi DDIM yn ymrwymo eich hun i ddilyn unrhyw gwrs trwy ateb yr holiadur! 

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu gyda ni yn yr ysgol.  

Diolch o galon am eich help a’ch cefnogaeth barhaus. 

Yn gywir iawn, 

Mr Bryn Jones 

Pennaeth Cynorthwyol

Ysgol Morgan Llwyd


Dear Parents/Guardians,

COURSES FOR PARENTS/GUARDIANS AT YSGOL MORGAN LLWYD! 

In partnership with Adult Community Learning and other subcontracted providers, Ysgol Morgan Llwyd’s Teaching and Learning Hub is organising courses for parents/guardians from early 2023. All these courses will be available to both Morgan Llwyd and primary school parents/guardians. Courses will be held at Ysgol Morgan Llwyd and will be TOTALLY FREE OF CHARGE

WE NEED YOUR HELP! What kind of courses would you like us to offer? Please help us by sharing your ideas and opinions in this short questionnaire! 

https://forms.office.com/r/xmD14r1et3

IMPORTANT! The results of this questionnaire will help us to understand which courses might be of interest to parents/guardians. You are NOT committing yourself to a course by answering this questionnaire!  

Should you require any further information, please do not hesitate to contact us at school. 

Thank you very much for your help and continued support. 

Yours sincerely, 

Mr Bryn Jones 

Assistant Headteacher 

Ysgol Morgan Llwyd