Bydd y tîm imiwneiddio yn ymweld â’r ysgol ar y 20.11.23 i gynnig brechlyn ffliw chwistrell trwyn i ddisgyblion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn olygu na fydd eich plentyn yn cael ei imiwneiddiad ar y diwrnod.
Mae’r GIG yn argymell bod eich plentyn yn cael brechiad ffliw bob blwyddyn.
Dilynwch y ddolen isod i gwblhau’r ffurflen ganiatad erbyn 12pm 17.11.23
https://forms.office.com/e/vZMsu9Rp0x Os ydych eisoes wedi cyflwyno ffurflen ganiatâd, nid oes angen unrhyw gamau pellach
Annwyl riant neu warcheidwad,
Mae’n bwysig iawn amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw er mwyn sicrhau ei fod yn aros mor iach â phosibl, gan fod COVID-19 a’r ffliw yn debygol o fynd ar led y gaeaf hwn. Y brechlyn ffliw gorau i’r rhan fwyaf o blant yw chwistrell trwyn. Dyma’r brechlyn a roddir ar y diwrnod.
Rydym wedi cynnwys taflen wybodaeth a ffurflen ganiatâd gyda’r llythyr hwn. Er mwyn helpu i sicrhau bod y brechlyn yn addas ar gyfer eich plentyn, ac nad yw’n colli allan, rhowch amser i ddarllen yr wybodaeth ac yna cwblhau ar-lein cyn y dyddiad brechu arfaethedig.
Os ydych chi eisiau cael rhagor o wybodaeth am frechu rhag y ffliw i blant, cysylltwch â tîm imiwneiddio, neu ewch i: icc.gig.cymru/brechlynffliw neu cliciwch ar yr atodiadau PDF.
Cadwch y llythyr hwn gan ei fod yn cynnwys dyddiad y sesiwn brechu a manylion cyswllt.
Yn gywir
Tîm Imiwneiddio
Ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen ganiatâd, cysylltwch â tîm imiwneiddio ar 03000 858599 cyn y sesiwn brechu os.
- oes unrhyw newidiadau i iechyd eich plentyn, neu
- os yw ei feddyginiaeth asthma wedi cynyddu, neu
- os oes steroidau drwy’r geg wedi’u rhoi iddo/iddi ar bresgripsiwn, neu
- os bydd ei frest yn gwichian