Blwyddyn 1 a 2 Ms Williams

Annwyl rieni, 

Mae achos o COVID-19 wedi’i gadarnhau yn nosbarth eich plentyn. Dylai eich plentyn barhau i fynychu’r ysgol.Gan fod eich plentyn yn gyswllt agos mae angen iddynt ddefnyddio Profion Llif Ochrol (LFTs) bob dydd am 7 diwrnod. Mae pecynnau ar gael yn yr ysgol pe byddech angen. Gofynnwn ichi fod ar eich gwyliadwriaeth am symptomau COVID-19 yn eich plentyn.

Dyma dri phrif symptom COVID-19:

 tymheredd uchel: bydd brest neu gefn eich plentyn yn boeth i’w cyffwrdd 
 peswch cyson, newydd: bydd eich plentyn yn peswch llawer am fwy nag awr, neu’n cael 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr
 colli synnwyr arogli neu flasu, neu newid yn y synnwyr arogli neu flasu: bydd eich plentyn wedi sylwi nad yw’n gallu arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau yn arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer.

Os oes unrhyw un o’r tri phrif symptom hyn ar eich plentyn, peidiwch â’i anfon i’r ysgol a threfnwch brawf PCR ar ei gyfer ar unwaith. Gallwch archebu prawf PCR ar-lein drwy wefan y GIG yn gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119. Dylai unrhyw un arall yn eich cartref sydd ag unrhyw un o’r tri phrif symptom hyn hefyd ynysu a chymryd prawf PCR.

Noder os gwelwch yn dda, os yw’ch plentyn o dan 5 oed, ni ddylent gymryd prawf COVID-19 oni bai bod meddyg yn cyfarwyddo iddynt wneud hynny neu os ydych chi’n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er budd gorau eich plentyn. Fodd bynnag, dylent aros i ffwrdd o’r ysgol tra bod ganddyn nhw symptomau.

Os yw unrhyw aelod o’ch cartref wedi profi’n bositif am COVID-19, rydym hefyd yn argymell y dylai plant 5 oed a hŷn ddefnyddio prawf LFT yn ddyddiol am saith diwrnod. Dylai hyn ddechrau ar y diwrnod y cadarnheir bod aelod o’ch cartref yn bositif o ganlyniad prawf llif ochrol neu brawf PCR.

Dylai unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf positif ddilyn y rheolau yn https://www.llyw.cymru/canllawiau-hunanynysu. Os yw’r canlyniad yn negyddol, gall eich plentyn ddychwelyd i’r ysgol cyn gynted ag y bydd yn teimlo’n well.

Fel ysgol, nid ydym bob amser yn ymwybodol o amgylchiadau personol, a gallai fod yna oedolion neu blant yn eich cartref neu eich grŵp cyswllt estynedig sydd â chyflyrau sy’n cynyddu risg COVID-19. Efallai y byddwch am gyfyngu ar eich cysylltiad ag unrhyw un sydd mewn perygl mwy o effeithiau COVID-19 rhag ofn.

Er gwybodaeth y mae’r llythyr hwn, er mwyn ichi fod ar eich gwyliadwriaeth am symptomau COVID-19. Mae’n bosibl y cewch ohebiaeth bellach gan y tîm Profi, Olrhain, Diogelu gyda rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd.

Rydym yn gwybod cymaint y mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi tarfu ar fywydau pawb. Eleni, rydym am gadw eich plentyn yn yr ysgol gymaint â phosibl, ond rydym hefyd am gadw ein hysgolion a’n cymunedau yn saff rhag effeithiau COVID-19.

Yn gywir,

Miss Nerys Davies